Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu am ei ymddygiad peryglus a bygythiol tuag at fenyw.
Fe wnaeth David Smith, 43 oed o Flaengwynfi, chwifio cyllell at y fenyw tra oedden nhw’n gyrru mewn ceir gwahanol yn agos at gyfeiriad y dioddefwr ar 2 Mawrth eleni. Aeth Smith ymlaen i ddilyn car y fenyw, cyn gyrru o’i blaen yn beryglus a mynd allan o’i gar i chwifio’r gyllell ati eto.
Digwyddodd hyn sawl tro, gyda Smith yn gwyro ar draws y ffordd mewn ymgais i daro car y dioddefwr oddi ar y ffordd. Yn y pen draw, roedd yn rhaid i’r dioddefwr yrru i mewn i ffos a rhedeg i ffwrdd er mwyn ceisio dianc rhag Smith.
Yn dilyn y digwyddiad, fe wnaeth Smith roi garej y dioddefwr ar dân yn fwriadol.
Plediodd yn euog i losgi bwriadol a diofal ynglŷn â pheryglu bywyd, gyrru cerbyd modur yn beryglus, dau gyhuddiad o fod â llafn cyllell/eitem lafnog finiog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, achosi difrod troseddol i eiddo, ac anfon neges fygythiol.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a phedwar mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Jonathan Holding:
“Roedd ymddygiad David Smith tuag at y dioddefwr yn fygythiol a dychrynllyd dros ben ac ni ellir goddef ymddygiad o’r fath.
“Does wybod pa mor bell y byddai Smith wedi mynd i godi ofn ar ei ddioddefwr. Yn ffodus iawn, daeth y digwyddiad i ben cyn i unrhyw un gael ei anafu.
“Cyfres o ddigwyddiadau oedd hyn, nid eiliad o wallgofrwydd, ac mae hyd y ddedfryd yn adlewyrchu hynny."