Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl i’r heddlu weithredu gwarant mewn ffatri ganabis yn Abertawe a’i ddarganfod yn cuddio mewn cwpwrdd.
Daeth swyddogion o hyd i Antonjo Kodheli, 42 oed heb gartref sefydlog, mewn eiddo ar Bryn Y Môr Crescent, Uplands, wrth iddynt chwilio'r cyfeiriad.
Darganfuwyd cyfanswm o 539 o blanhigion mewn wyth ystafell yn yr eiddo.
Plediodd Kodheli yn euog i ymwneud â chynhyrchu cyffur rheoledig Dosbarth B. Mae wedi cael ei ddedfrydu i wyth mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Luke Tucker:
“Mae'n hynod o siomedig gweld dro ar ôl tro bod cyfeiriadau yn Abertawe yn cael eu defnyddio i gynnal gweithgareddau anghyfreithlon, gan gynnwys tyfu cyffuriau.
“Antonjo Kodheli yw’r diweddaraf mewn rhestr hir o droseddwyr i ddarganfod nad yw bod yn rhan o’r fasnach cyffuriau anghyfreithlon yn werth y risg. Er y gellir dadlau bod cyffuriau mwy peryglus yn bodoli, mae'r arian a gynhyrchir drwy ffatrïoedd canabis yn aml yn mynd tuag at weithgaredd troseddol mwy difrifol byth, a dyna pam y byddwn bob amser yn gweithredu.”