Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae troseddwr manwerthu mynych wedi cael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad gan dîm Plismona yn y Gymdogaeth Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd Emma Faulkner, 48 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, ei dedfrydu i 10 mis yn y carchar ar ôl ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher 6 Mai.
Cafodd Faulkner ei dal ar ôl iddi dargedu busnesau ledled Pen-y-bont ar Ogwr dro ar ôl tro dros yr wyth mis diwethaf. Roedd hyn yn cynnwys dwyn gwerth £1,500 o eitemau o The Cosmetic Store yn McArthur Glen, £40 o Poundland yn Stryd Adare, a chanhwyllau gwerth £30 o siop Yankee Candle, yn ogystal â nifer o achosion eraill o ddwyn o siopau.
Cafodd ei dedfrydu hefyd am fod yn feddw ac afreolus mewn man cyhoeddus. Mae swyddogion wedi defnyddio eu pwerau ychwanegol i wneud cais am orchymyn ymddygiad troseddol am gyfnod o ddwy flynedd fydd yn gwahardd Faulkner rhag mynd i mewn i siopau sydd wedi gorfod dioddef ei hymddygiad. Mae ei chi hefyd wedi cael ei gymryd oddi wrthi, ac mae Faulkner wedi cael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am bum mlynedd.
Dywedodd y Rhingyll Daniel Parry o Dîm Plismona yn y Gymdogaeth Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae troseddau manwerthu mynych ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael effaith uniongyrchol ar ein cymunedau ac ar fusnesau lleol. I fod yn gwbl glir - bydd y rhai sy'n dewis troseddu dro ar ôl tro yn cael eu hadnabod, eu targedu a byddwn yn ymdrin â nhw yn gadarn. Bydd ein swyddogion yn gweithio'n ddiflino i fynd ar ôl y rhai sy'n gyfrifol, a byddant yn defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael iddynt i ddwyn yr unigolion hynny i gyfrif.”