Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o ardal Porth wedi cael ei garcharu am dreisio menyw y gwnaeth gwrdd â hi ar ap chwilio am gariad.
Cafodd Dexter Walkley, 30 oed, ei ganfod yn euog yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd.
Clywodd y llys eu bod wedi bod ar noson allan yng Nghaerdydd ac wedi dychwelyd i gyfeiriad cartref y ddioddefwraig.
Pan ddeffrodd hi, gwelodd y diffynnydd yn cael rhyw gyda hi, er nad oedd hi wedi cydsynio i hynny.
Anfonodd Walkley neges destun y diwrnod canlynol i ymddiheuro am ei ymddygiad. Gwadodd y drosedd o drais yn ddiweddarach, ond cafodd ei ganfod yn euog ar 20 Mawrth 2026.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Gwener, 1 Mai, i wyth mlynedd yn y carchar a chafodd ei wneud yn destun gofynion hysbysiad troseddwr rhyw am gyfnod amhenodol, yn ogystal â gorchymyn atal nes y clywir yn wahanol.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Ellie Adkins o Heddlu De Cymru:
"Hoffwn ganmol y ddioddefwraig am roi gwybod am yr hyn a ddigwyddodd ac am yr hyder y mae wedi'i ddangos drwy gydol yr ymchwiliad.
"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd a osodwyd gan y llys yn helpu i alluogi'r ddioddefwraig i symud ymlaen â'i bywyd."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.