Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Kane Evans, 29 oed, ei arestio gan yr heddlu ym maes awyr Bryste ar 29 Ionawr, 2026, ar ôl dychwelyd o wyliau yn Cyprus.
Ar y pryd, roedd yn destun ymchwiliad gan swyddogion o Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro.
Yn ôl ym mis Tachwedd 2025, roedd mewn fflat yn Mill Road pan wnaeth swyddogion o'r Tîm Plismona yn y Gymdogaeth lleol weithredu gwarant o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.
Wrth i swyddogion dorri i mewn, cafodd bag cefn yn cynnwys crac cocên ei daflu allan o ffenestr ystafell wely lle y gwnaethant ddod o hyd i Evans a'i arestio.
Atafaelodd y swyddogion ddau ffôn o'r cyfeiriad, a chanfuwyd bod un ohonynt yn llinell gyffuriau a oedd yn gysylltiedig ag ymchwiliad arall.
Roedd swyddogion yn aros am Kane ar y rhedfa wrth iddo gamu oddi ar yr awyren. Cafodd ei arestio ac aethpwyd ag ef i'r ddalfa, lle y cafodd ei gyhuddo o ymwneud â chyflenwi crac cocên.
Plediodd yn euog i hyn, a ddydd Mercher 13 Mai, cafodd ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd am 40 mis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jon Grenville-Roberts:
“Llwyddodd ein swyddogion arbenigol i gysylltu ymchwiliadau gwahanol i brofi bod Evans wedi bod yn delio cyffuriau. Ynghyd â'r cyffuriau y daethpwyd o hyd iddynt yn ystod y warant, roedd hynny wedi ein galluogi i baratoi ffeil gref o dystiolaeth a arweiniodd at ble euog. Efallai ei fod wedi meddwl ei fod wedi osgoi cael ei ddal, ond newidiodd ei feddwl yn gyflym wrth weld swyddogion yn aros amdano yn y maes awyr.”
Nid oedd gan Evans unrhyw gyllyll nac arfau yn ei feddiant, ac ni chafodd ei ddyfarnu'n euog o drosedd cyllyll, ond cafodd ei arestio yn ôl ym mis Tachwedd 2025, yn ystod Sceptre – sef menter gan yr heddlu i fynd i'r afael â throseddau cyllyll sy'n aml yn gysylltiedig â delio cyffuriau. Yn ystod yr ymgyrch honno, cafodd cyfanswm o 15 o bobl eu harestio a daethpwyd o hyd i 17 cyllell ar ôl gweithredu wyth gwarant ledled de Cymru.
Sy'n rhedeg ar hyn o bryd am un wythnos yn dechrau heddiw (18 Mai) – hefyd yn canolbwyntio'n gryf ar ymgysylltu â'r gymuned, gan addysgu pobl ifanc am beryglon cario cyllell, ynghyd â beth i'w wneud os byddant yn dod yn ymwybodol o rywun sy'n cario cyllell.
Dros y saith diwrnod nesaf, bydd timau plismona ledled de Cymru yn cynnal gweithgareddau fel cyrchoedd cyllyll a arweinir gan guddwybodaeth, defnyddio bwâu cyllyll mewn canolfannau trafnidiaeth, a sesiynau ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll mewn partneriaeth ag ysgolion a chlybiau ieuenctid lleol.
Ymgyrch sy'n mynd i'r afael â throseddau cyllyll yw 'Ddim yr Un', gyda'r nod o leihau nifer y troseddau cyllyll a nifer y bobl sy'n eu cyflawni yn ne Cymru.
Mae Heddlu De Cymru a'r Uned Atal Trais yn parhau i redeg yr ymgyrch er mwyn addysgu pobl ifanc am ganlyniadau cario cyllell.Gyda'n gilydd, rydym yn ymyrryd yn gynnar er mwyn mynd i'r afael â throseddau cyllyll gyda'r nod o leihau nifer y troseddau cyllyll a nifer y bobl sy'n eu cyflawni.