Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Shaun Moran, 42 oed o Trowbridge, Caerdydd, wedi cael ei garcharu am rannu llun anweddus o blentyn.
Aeth swyddogion Rheoli Troseddwyr Rhyw a Throseddwyr Treisgar (MOSOVO) i gyfeiriad Moran ym mis Mawrth 2026, ar ôl derbyn gwybodaeth bod y preswylydd wedi rhannu deunydd cam-drin plant yn rhywiol ar-lein.
Plediodd yn euog i un cyhuddiad o rannu 1318 o luniau a fideos anweddus o blant, gyda 228 ohonynt yn perthyn i’r categori mwyaf difrifol. Dedfrydwyd i chwe blynedd o garchar yn Llys y Goron Caerdydd ar 18 Mai.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sara Bradbury, o Heddlu De Cymru:
“Mae hyn yn dangos y partneriaethau lleol a byd-eang y mae timau MOSOVO yn ymgysylltu â nhw. Gyda chymorth y tîm fforenseg ddigidol arbenigol, llwyddwyd i weld ei weithgareddau ar-lein.
“Diolch i’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymgyrch hon, lle y bu timau’n cydweithio â chyrff gorfodi'r gyfraith rhyngwladol, cafodd Moran ei arestio ac atafaelwyd sawl dyfais ddigidol i’w harchwilio.”
“Mae diogelu plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru, a byddwn yn parhau i weithio'n agos â phartneriaid i adnabod troseddwyr sy'n defnyddio technoleg i edrych ar gynnwys anghyfreithlon sy'n ymwneud â phlant a’i rannu.”
Yn ogystal â mynd i'r carchar, bydd Moran yn cael ei roi ar y gofrestr troseddau rhyw am gyfnod amhenodol ac mae hefyd wedi cael ei wneud yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.