Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl gyrru tarw dur mewn i dafarn yn y Rhigos ym mis Rhagfyr 2025.
Cafodd Daniel Morgan, 35 oed, o Aberdâr, ei ddedfrydu ddydd Iau, 14 Mai yn Llys y Goron Merthyr i tair blynedd a chwe mis yn y carchar. Mae'r ddedfryd hon yn dilyn pledion euog i'r drosedd waethygedig cymryd cerbyd a difrodi eiddo gwerth dros £5,000, gyrru peryglus a niwed troseddol sy'n peryglu bywyd yn ddi-hid.
Mae'r achos yn deillio o ddydd Iau, 4 Rhagfyr 2025, pan oedd Daniel Morgan wedi bod yn yfed yn y New Inn Public House yn Rhigos, Aberdâr. Gadawodd y dafarn gan fygwth y byddai'n ymosod arni â tharw dur. Yn hwyrach y noson honno, aeth Morgan i Cefn Farm, lle gwnaeth ddwyn tarw dur drwy ei yrru drwy'r sied lle'r oedd yn cael ei gadw.
Parhaodd Morgan i yrru'r tarw dur i lawr y brif ffordd, lle tarodd Dryc Isuzu a'i wthio drosodd. Yna cyrhaeddodd dafarn y New Inn, lle tarodd yn erbyn y cyntedd blaen ddwywaith, gan achosi difrod sylweddol. Ceisiodd aelod o'r cyhoedd stopio Morgan drwy rwystro'r ffordd â threlar a thryc picyp, ond gyrrodd drostynt, gan falu'r tryc a'r trelar.
Defnyddiodd aelodau o deulu Morgan gloddiwr i geisio atal Morgan rhag symud ymhellach, a gwnaethant lwyddo i atal Morgan drwy ddefnyddio bwced y cloddiwr. Cafodd ei arestio yn ddiweddarach yng nghab y tarw dur.
Dywedodd y Ditectif Rhingyll Jenna Herbert:
"Roedd hwn yn ymosodiad difeddwl ac wedi'i dargedu yn erbyn tafarn.
"Mae Morgan wedi achosi niwed sylweddol i'r dafarn a sawl cerbyd, mae'n ffodus na chafodd unrhyw un ei anafu'n ddifrifol yn y digwyddiad hwn. Bydd Morgan nawr yn treulio amser yn y carchar, lle gall feddwl am ei weithredoedd."