Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl i swyddogion ddarganfod ei fod yn ymwneud â chyflenwi cocên.
Cafodd Leon Jones, 24 oed o Ferthyr, ei ddedfrydu i ddwy flynedd a chwe mis yn y carchar ar ôl iddo gael ei euogfarnu.
Cafodd Jones ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 15 Mai, lle plediodd yn euog i un cyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cocên ac un cyhuddiad o fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Mae'r achos yn deillio o ymchwiliad gan Heddlu De Cymru i linell gyffuriau a oedd yn gweithredu yn ardal Morgannwg Ganol. Ar ôl i swyddogion adnabod rhif yr oeddent yn gwybod ei fod yn gysylltiedig ag un o’r llinellau cyffuriau hyn, llwyddwyd i gysylltu’r rhif â Jones.
Aeth Jones i orsaf heddlu Merthyr o'i wirfodd ym mis Rhagfyr 2025. Pan gafodd cynnwys ei ffôn symudol ei lawrlwytho, gwelwyd negeseuon a oedd yn dangos yn glir bod y ffôn yn gysylltiedig â chyflenwad crac cocên. Cafodd y ffôn ei gysylltu â chyfeiriad yn Nowlais hefyd. Pan aeth swyddogion i’r cyfeiriad, daethant o hyd i grac cocên yn ogystal â geriach cyflenwi cyffuriau arall.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Lia Jones, “Mae'r cyffuriau anghyfreithlon hyn yn arwain at ganlyniadau dinistriol i’r bobl ymhellach i lawr y gadwyn sy'n eu defnyddio, heb sôn am eu teuluoedd, eu ffrindiau a'r gymuned yn ehangach.”
“Byddwn yn parhau i ymchwilio i unrhyw wybodaeth sydd gennych am werthu neu ddefnyddio'r cyffuriau hyn, a byddwn yn mynd i’r afael â llinellau cyffuriau sy’n gweithredu ar draws yr ardal.”