Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion heddlu ar draws dde Cymru yn canolbwyntio ar waith i atal troseddau cyllyll ac i dynnu sylw at effaith ddinistriol hyn.
Mae'r wythnos o weithredu dwys yn rhan o ymgyrch Sceptre - ymdrech genedlaethol sy'n canolbwyntio ar orfodi ac atal.
Trwy gydol yr wythnos, mae swyddogion yn gweithio gyda sefydliadau ieuenctid a phartneriaid eraill i gynnal digwyddiadau sy'n atal cario cyllyll a chodi ymwybyddiaeth.
Yn Tondu ddydd Llun, Mai 18, trefnwyd digwyddiad rygbi cyffwrdd yn cynnwys 14 o ysgolion a roddodd gyfle i swyddogion siarad â chwaraewyr ifanc rhwng gemau am y peryglon. Roedd cyn-seren rygbi Cymru, Gareth 'Alfie' Thomas yn bresennol i ddangos ei gefnogaeth i'r achos pwysig.
Yn Abertawe, daeth gwirfoddolwyr ieuenctid yr heddlu o orsaf heddlu Cockett i glwb ieuenctid Evolve i helpu i ledaenu'r gair.
Mae cynulliadau arbennig hefyd yn cael eu cynnal mewn ysgolion cyfun hefyd.
Mae timau plismona cymdogaeth lleol hefyd yn cynnal chwiliadau am gyllyll ar sail cudd-wybodaeth mewn cymunedau ac mae bwâu cyllyll yn cael eu defnyddio mewn rhai canolfannau trafnidiaeth allweddol.
Mewn ymgyrch debyg a oedd yn canolbwyntio yn fwy ar orfodi ym mis Tachwedd 2025, cafodd cyfanswm o 15 o bobl eu harestio ac atafaelwyd 17 o gyllyll ar ôl cynnal wyth gwarant ledled de Cymru.
Dywedodd yr arweinydd troseddau cyllyll, y Prif Arolygydd Christine Edmunds: "Mae gweithio gyda phartneriaid yn allweddol i fynd i'r afael â throseddau cyllyll, gan na all plismona wneud hyn ar ei ben ei hun.
"Yn ystod yr wythnos hon o weithredu dwys rydym yn defnyddio dull amlochrog sy'n cynnwys camau gorfodi ond hefyd yn canolbwyntio'n helaeth ar ymgysylltu yn y gymuned.
"Mae addysgu pobl ifanc am beryglon cario cyllell, ynghyd â beth i'w wneud os ydyn nhw'n gwybod am rywun sy’n cario cyllell yn hanfodol os ydym am atal cario cyllyll rhag dod yn beth arferol."
Cynhelir cyfnodau o weithredu dwys yn ystod wythnos Sceptre ddwywaith y flwyddyn, ond mae gwaith Heddlu De Cymru yn parhau drwy gydol y flwyddyn.
Mae 'Ddim yr Un' yn ymgyrch atal troseddau cyllyll sy'n cael ei chynnal gan Heddlu De Cymru a'r Uned Atal Trais gyda'r nod o leihau nifer y troseddau cyllyll a throseddwyr yn ne Cymru.
Gyda'i gilydd, mae dull ymyrraeth gynnar yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â throseddau cyllyll gyda'r nod o leihau nifer y troseddau cyllyll a throseddwyr.