Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi cwblhau ymchwiliad cymhleth i achosion o gam-fanteisio'n rhywiol ar blant ar-lein, a elwir yn Ymgyrch Heleia, yn llwyddiannus. Arweiniodd yr ymchwiliad at ddedfrydu Kyle Fisher, 18 oed o Heol Islwyn, Tonyrefail, yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, lle cafodd ddedfryd sylweddol o garchar am sawl trosedd yn erbyn pobl ifanc.
Dechreuodd yr achos â honiadau annymunol yn erbyn Fisher, a gafodd ei arestio ym mis Chwefror ac ym mis Medi 2024 am droseddau a gyflawnwyd yn ardaloedd sawl heddlu, gan gynnwys Caint, Essex, a Dyfnaint a Chernyw. Rhoddodd y dioddefwyr, a oedd rhwng 10 a 15 oed, wybod am ymddygiad ystrywgar a bygythiol Fisher lle y cawsant eu gorfodi drwy flacmel i dynnu ffotograffau a fideos anweddus a'u rhannu.
Yn ystod arestiad cychwynnol Fisher, atafaelodd swyddogion ffôn symudol, a ddatgelodd dystiolaeth arswydus: miloedd o negeseuon a oedd yn cynnwys bygythiadau i hacio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol dioddefwyr os nad oeddent yn cydymffurfio â'i ofynion. Camfanteisiodd Fisher ar ei ddioddefwyr i gymryd rhan mewn gweithredoedd gydag anifeiliaid anwes gan fygwth hunan-niweidio os nad oeddent yn anfon y lluniau neu'r fideos y gofynnwyd amdanynt.
Mae natur yr honiadau yn peri pryder gwirioneddol. Dywedodd y dioddefwyr eu bod wedi teimlo pwysau i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol, a dywedodd rhai bod Fisher wedi dweud wrthynt am niweidio eu hunain neu aelodau o'u teulu hyd yn oed. Mewn un achos, rhannodd luniau anweddus o ddioddefwr yn gyhoeddus ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys ei enw a'i wybodaeth gyswllt.
Wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo, daeth yn amlwg bod Fisher, o bosibl, wedi cysylltu â chymaint â 200 o ddioddefwyr. Cafodd yr unigolion hyn eu hadnabod a'u diogelu gyda chymorth gan heddluoedd o bob cwr o'r DU, a chadarnhawyd bod 19 o unigolion wedi dioddef troseddau rhywiol difrifol drwy ddadansoddi ffôn symudol Fisher. Cofnododd swyddogion yr achosion o ryngweithio rhwng Fisher â phob dioddefwr yn ofalus, gan ddarparu tystiolaeth gritigol o'i ymddygiad rheibus.
Tra roedd ar fechnïaeth, roedd Fisher yn cael ei reoli gan y Gwasanaethau Troseddwyr Ieuenctid, y Gwasanaeth Prawf, a'r gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Rhyw a Throseddwyr Treisgar (MOSOVO) oherwydd pryderon ynghylch ei statws risg uchel. Sicrhaodd y tîm ymchwilio fod yr holl ddioddefwyr wedi cael cymorth a bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni o ddifrif.
Ar 26 Mawrth 2025, aeth swyddogion i gyfeiriad Fisher unwaith eto a daethant o hyd i ddyfais chwarae gemau Nintendo 3DS â mynediad at y rhyngrwyd. Daethpwyd o hyd i hanes chwilio a oedd yn peri gofid, gan gynnwys ymholiadau a oedd yn gysylltiedig â bwystfileiddiwch, ac atafaelwyd y ddyfais. Wrth archwilio ymhellach, daethpwyd o hyd i 22 o luniau eithafol o bornograffi, a atgyfnerthodd y cyhuddiadau yn ei erbyn.
Yn dilyn yr archwiliad parhaus o ddyfeisiau a atafaelwyd oddi wrth Fisher, aeth swyddogion yn ôl i'w gartref ar 1 Mai 2025, gan ei arestio a'i gyhuddo.
Heddiw, cafodd Kyle Fisher ei ddedfrydu i 14 mlynedd yn y carchar yn dilyn proses farnwrol drylwyr. Mae'r achos hwn yn dangos ymrwymiad di-ildio Heddlu De Cymru i amddiffyn unigolion agored i niwed a dwyn troseddwyr i gyfrif.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Steve Jones a arweiniodd yr ymchwiliad: “Diogelwch a llesiant ein plant yw ein prif flaenoriaeth. Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwyliadwriaeth a chymorth wrth fynd i'r afael ag achosion o gam-fanteisio ar-lein. Rydym yn canmol dewrder y dioddefwyr a gysylltodd â ni, ac rydym yn gobeithio bod y canlyniad hwn yn sicrhau cyfiawnder iddynt.”
Mae Heddlu De Cymru yn annog unrhyw un a all fod wedi dioddef troseddau tebyg neu sydd â gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gweithgareddau o'r fath i roi gwybod amdanynt. Mae gwasanaethau cymorth ar gael gan Wasanaethau Cymorth Heddlu De Cymru i'r rhai y mae'r materion hyn wedi effeithio arnynt