Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi cael eu dedfrydu am gynnau tân bwriadol ar ôl iddynt roi car ar dân ym Mracla ym mis Rhagfyr 2025.
Dedfrydwyd Ellis Lloyd, 19 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, i 34 misoedd mewn sefydliad troseddwyr ifanc.
Dedfrydwyd Taran Mills, 18 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, i 24 mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc sydd wedi'i oedi am 24 mis.
Cawsant eu dedfrydu ddydd Mawrth 17 Mawrth yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl i'r ddau bledio'n euog i ddau gyhuddiad o losgi bwriadol.
Cafodd swyddogion alwad gan y gwasanaeth tân ym mis Rhagfyr 2025 yn rhoi gwybod bod dau gar ar dân ym Mracla, Pen-y-bont ar Ogwr.
Edrychodd swyddogion a oedd yn ymchwilio i'r tân ar y deunydd teledu cylch cyfyng, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr eiliadau cyn y tân, pan welsant Nissan Pixo yn gyrru mewn cylchoedd o amgylch yr ystâd cyn i Lloyd a Mills ddod allan o'r car. Yn fuan ar ôl hynny, gellir gweld Lloyd a Mills yn nesáu at Audi Q5. Roedd un ohonynt yn dal morthwyl yn ei law, ac roedd y llall yn dal can petrol.
Ychydig ar ôl i'r ddau ddyn dorri ffenestr gefn yr Audi Q5, gwnaethant arllwys tanwydd yn y car a’i roi ar dân. Gellir gweld un ohonynt yn ffoi o'r lleoliad wrth i'w gôt gael ei rhoi ar dân. Lledaenodd y tân i gar ar ddreif yr eiddo drws nesaf.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sarah Jenkins:
“Gallai gweithredoedd disynnwyr Lloyd a Mills fod wedi achosi anaf difrifol i rywun, a byddent yn ymwybodol o hyn wrth gyflawni'r drosedd. Dylent feddwl o ddifri am eu gweithredoedd."