Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymchwiliad gan yr heddlu i ddigwyddiad difrifol ym Mhencoed ddydd Sadwrn bellach yn cael ei drin fel ymchwiliad i lofruddiaeth.
Digwyddodd yr ymosodiad yn Felindre Road, Pencoed, yn ystod oriau mân fore Sadwrn 28 Chwefror.
Bu farw'r dyn 58 oed, a oedd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, yn gynharach heddiw. Mae aelodau teulu'r dyn yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol ar hyn o bryd, ac rydym yn meddwl am y teulu ac yn estyn ein cydymdeimlad iddynt.
Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru sy’n arwain yr ymchwiliad bellach, ac mae'r dyn 26 oed yn a gafodd ei arestio'n parhau i fod yn nalfa'r heddlu.
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i'r digwyddiad yn apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Felindre Road, Pencoed, rhwng hanner nos a 5am ddydd Sadwrn i gysylltu â nhw.
Anogir modurwyr i edrych ar unrhyw ddeunydd fideo o gamerâu dashfwrdd a allai fod yn berthnasol.
Mae ditectifs yn awyddus i siarad â dau dyst posibl, sef dau berson oedrannus y credir eu bod wedi cerdded ar hyd Felindre Road rhwng 12.30am a 4am bore Sadwrn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Graham Williams o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru:
"Yn drist iawn, mae dyn 58 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad fore Sadwrn. Mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg hon, ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Hoffwn roi sicrwydd i'r gymuned leol bod rhywun bellach yn y ddalfa, ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymchwiliad ar hyn o bryd. Rydw i am ddiolch i bawb yn y gymuned sydd wedi cynorthwyo ein hymchwiliad hyd yma. Rwy'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod yn berthnasol i'n hymchwiliad - yn enwedig y ddau dyst posibl - i gysylltu â ni.
Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, cysylltwch â ni gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600063517. Fel arall, mae modd cyflwyno gwybodaeth drwy ddefnyddio'r Porth Cyhoeddus Digwyddiadau Mawr: https://mipp.police.uk/operation/62SWP26C30-PO1