Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diolchwyd i dimau Heddlu De Cymru am eu hymdrechion ar ôl iddynt helpu i ddwyn dyn a oedd wedi cyflawni nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant i gyfrif.
Cafodd Alexander Hamill, 68 oed, ei garcharu am 16 o flynyddoedd heddiw am gyfres o droseddau a gyflawnwyd yn yr Alban ac Abertawe. Roedd yr ymchwiliad wedi cael ei arwain gan Heddlu'r Alban.
Cafodd Hamill ei ddisgrifio fel “rheibiwr didrugaredd” ar ôl iddo gyflawni nifer o droseddau yn erbyn dau fachgen a dwy ferch yn y 1990au.
Gwnaeth Ditectif Brif Arolygydd Heddlu'r Alban, Darren Munogee, dalu teyrnged i ddewrder dioddefwyr Hamill, gan ddweud:
“Rwy'n gobeithio y bydd cael gwybod bod Hamill yn y carchar yn awr yn rhoi rhywfaint o gysur iddyn nhw."
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd:
"Roedd hwn yn ymchwiliad heriol iawn. Hoffwn i ddiolch i'r holl swyddogion oedd yn rhan o’r ymchwiliad, gan gynnwys cydweithwyr yn Heddlu De Cymru."
Darllenwch y stori lawn drwy Heddlu’r Alban yma.
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.