Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu am ymosod ar dri o blant yn y parc, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Mae Luke Jancouski, 39 oed o Drecynon, wedi cael ei ddedfrydu i un flwyddyn a chwe mis o garchar ar ôl cael ei euogfarnu.
Digwyddodd y dedfrydu ddydd Iau 5 Mawrth yn Llys y Goron Merthyr Tudful lle plediodd Jancouski yn euog i ddau gownt o ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol ac un cownt o ymosodiad trwy guro.
Clywodd y llys bod tri phlentyn 11 oed yn chwarae ym Mharc Aberdâr yn gynnar ym mis Ionawr 2026, pan aeth Jancouski i fyny atynt. Aeth ati wedyn i ymosod ar y tri phlentyn. Cafodd un plentyn ei brocio yn ei lygad a’i fwrw ar ei ben; dyrnwyd ail blentyn ac achosodd hynny iddo golli dant; a dyrnwyd y trydydd plentyn yn ei drwyn.
Yn dilyn ymchwiliad, llwyddodd swyddogion i gysylltu Jancouski gyda’r ymosodiad trwy ddefnyddio lluniau teledu cylch cyfyng o’r safle a oedd yn dangos tatŵ ar ei law.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Jade Barrett “Ni ddylai unrhyw blentyn byth orfod dioddef trais, yn arbennig mewn lle ble maen nhw i fod i gael hwyl a mwynhau eu hunain. Rydym wedi ymroi i gadw ein cymunedau’n ddiogel rhag y mathau yma o droseddwyr ac mae Jancouski dan glo yn haeddiannol yn awr am ei weithredoedd ffiaidd."