Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i achos o drywanu a ddigwyddodd yn Ynys y Barri ddydd Llun Gŵyl y Banc (25 Mai).
Dioddefodd bachgen 17 oed o Gaerdydd anaf difrifol i'w goes na chredwyd yn wreiddiol y byddai yn peryglu nac yn newid ei fywyd.
Fodd bynnag, ers hynny mae wedi gorfod cael llawdriniaeth i amdorri ei goes sydd wedi newid ei fywyd yn llwyr ac mae wedi bod yn derbyn gofal critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sarah Lee, o Heddlu De Cymru: "Mae difrifoldeb yr anaf a gafodd y dioddefwr yn ei arddegau yn gwbl ddinistriol.
“Yn ddealladwy, mae ei deulu yn ofidus iawn, ac mae swyddog cyswllt teuluol sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn rhoi cymorth ychwanegol iddynt.
“Mae ein hymchwiliad, sy'n cynnwys archwilio cannoedd o oriau o luniau teledu cylch cyfyng ac olrhain tystion, yn parhau.
“Mae dyn 18 oed o Lanyrafon, Caerdydd, a arestiwyd ar ddiwrnod y digwyddiad ar amheuaeth o anafu gyda bwriad, yn parhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach barhau.
“Rydym yn annog tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru neu Crimestoppers yn ddienw.”
Os gallwch helpu, cysylltwch â ni drwy un o'r dulliau canlynol gan ddyfynnu 2600163243.
💻 Cysylltwch â ni ar-lein drwy https://bit.ly/SWPCysylltu-a-ni
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.