Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd gwaith tîm rhwng Heddlu De Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ddiwrnodau gemau.
Nod Ymgyrch Gôl yw adnabod pobl sy'n ymwneud ag ymddygiad o'r math a chymryd camau priodol.
Gallai'r camau gweithredu amrywio o weithgareddau addysgol a dargyfeirio yn y clwb i Orchmynion Gwahardd o Bêl-droed.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Emma Fox, o Heddlu De Cymru: "Mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn amgylchedd diogel, croesawgar a chyfeillgar i deuluoedd, ac mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n mynychu gemau yn ymddwyn yn gyfrifol.
"Fodd bynnag, rydym wedi gweld achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar, oedd yn aml yn cynnwys grwpiau o bobl ifanc.
"Maen nhw wedi digwydd y tu allan i'r stadiwm ac mewn ardaloedd cyfagos, gan gynnwys canol y ddinas, cyn ac ar ôl gemau cartref.
"Mae Ymgyrch Gôl yn ddull partneriaeth sydd wedi'i gynllunio i ymgysylltu'n benodol â'r cefnogwyr ifanc hyn, sicrhau eu llesiant, a dod â'r ymddygiad hwn i ben."
Mae enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cynnwys gwisgo masgiau, grwpiau mawr yn creu ymdeimlad o fygythiad, taflu eitemau, ac yfed alcohol dan oed.
Gan weithio ar y cyd, mae Heddlu De Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi ymrwymo i nodi'r sawl sy'n gyfrifol, adolygu digwyddiadau a chymryd camau priodol.
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallai'r camau gweithredu gynnwys:
Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd: "Rydym am i gefnogwyr o bob oed fwynhau ein gemau mewn amgylchedd diogel, croesawgar a chadarnhaol.
"Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym yn gweithio gyda Heddlu De Cymru i fynd i'r afael ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â diwrnod y gêm.
"Fel bob amser, rydym yn gofyn i gefnogwyr drin cyd-gefnogwyr, staff, preswylwyr a busnesau â pharch. Gofynnwn i chi ddilyn canllawiau'r heddlu, stiwardiaid a staff y digwyddiad, rhoi gwybod am ymddygiad sy'n achosi pryder os byddwch chi'n dyst i hynny, a helpu i greu awyrgylch cadarnhaol sy'n adlewyrchu gwerthoedd y Clwb."