Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gwasanaeth hwn mewn beta, sy'n golygu ein bod yn gweithio arno. Os hoffech roi adborth i ni:
I gysylltu â'ch tîm lleol, defnyddiwch ein adnodd cysylltu ar-lein cyflym a syml.
Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau i sicrhau bod eich ymholiad yn cyrraedd y lle iawn.
Diogelwch ar y Ffyrdd
Wedi'i roi 11 Mehefin 2026
Mae'r gweithredoedd a gymerwyd yn cael eu diweddaru bob tri mis.
Camau wedi'u cymryd 11 Mehefin 2026
Diogelwch ar y Ffyrdd
Wedi'i roi 10 Mawrth 2026
Mae Ymgyrch Atal wedi cael ei chynnal yn ardal Cyncoed gyda chymorth GanBwyll a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Bu’r timau yn gweithio gyda'i gilydd i fonitro cerbydau a stopio’r rhai oedd yn gyrru dros y terfyn cyflymder, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a chyflawni troseddau traffig eraill.
Cafodd 419 o geir eu monitro
Rhoddwyd cyngor ar oryrru i 52 o bobl
Rhoddwyd cyngor ar wisgo gwregys diogelwch i 4 unigolyn
Cafodd 1 person ddirwy am oryrru
Mae ymgysylltu yn chwarae rhan hanfodol mewn diogelwch ar y ffyrdd. Cafodd y gyrwyr dan sylw ddewis - mynd i sesiwn addysgol gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar unwaith, neu dderbyn cosb benodedig. Dirwy o £100 i'w thalu yn y fan a'r lle yw'r gosb ar hyn o bryd ar gyfer trosedd gwregys diogelwch, neu £100 a 3 phwynt ar eich trwydded am oryrru.
Camau wedi'u cymryd 10 Mehefin 2026
Troseddau'n ymwneud â cherbydau
Wedi'i roi 10 Rhagfyr 2025
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Parc y Rhath
Wedi'i roi 10 Rhagfyr 2025
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Campws Cyncoed
Wedi'i roi 01 Medi 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd ac wedi gweithio â Phrifysgol Met Caerdydd i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cafodd delweddau o gamerâu CCTV eu rhannu ag ysgolion lleol, a oedd yn allweddol wrth adnabod nifer o bobl ifanc, gyda rhai ohonynt yn achosi problemau ar y safle dro ar ôl tro. I'r rheini a gafodd eu hadnabod, mae atgyfeiriadau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael eu cyflwyno a llythyrau rhybudd wedi cael eu dosbarthu.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi cwblhau rhaglen i wella mesurau diogelwch.
Yn ystod gwyliau haf ysgolion cynhaliodd y Brifysgol raglen Cynhwysiant mewn Chwaraeon i Bobl Ifanc; aeth y Brifysgol at ysgolion yn y gymuned leol i gynnig y rhaglen hon i'w myfyrwyr, ar yr amod bod y myfyrwyr yn parchu'r safle a'r staff; mae hyn wedi helpu i feithrin a gwella cydberthnasau â phobl ifanc.
Ar y cyfan, mae'r dull cydweithredol hwn wedi bod yn llwyddiannus, gyda gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y safle.
Camau wedi'u cymryd 10 Rhagfyr 2025
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Parc y Rhath
Wedi'i roi 01 Medi 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd.
Rydym wedi cynnal ymarfer 'stopio a chwilio' ar nifer o bobl, ymdriniwyd â rhai ohonynt am fod â chanabis yn eu meddiant. Mae nifer o bobl eraill wedi cael eu hadnabod drwy CCTV ac wedi derbyn llythyrau rhybudd yn ddiweddarach drwy'r broses ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Roedd adroddiadau am berson digartref yn achosi problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal y parc, a chafodd ei adnabod ac ymdriniwyd ag ef yn ddiweddarach drwy'r broses ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cafodd y person hwn hefyd ei atgyfeirio i gael cymorth.
Camau wedi'u cymryd 10 Rhagfyr 2025
Troseddau'n ymwneud â cherbydau
Wedi'i roi 01 Medi 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd a chefnogi digwyddiadau cymunedol i hybu diogelwch a rhoi gwybod am broblemau.
Rydym wedi cynnal trafodaeth atal troseddau a sesiwn holi ac ateb am nifer o fathau o droseddau, gan gynnwys troseddau'n ymwneud â cherbydau yn Eglwys Park End, a chafwyd presenoldeb ac ymateb da yn y digwyddiad hwn.
Mae'r duedd gyffredinol o droseddau'n ymwneud â cherbydau ar draws y ward wedi gostwng.
Camau wedi'u cymryd 10 Rhagfyr 2025