Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gwasanaeth hwn mewn beta, sy'n golygu ein bod yn gweithio arno. Os hoffech roi adborth i ni:
Mae plismona yn y gymdogaeth wrth wraidd ein dull o gadw De Cymru'n ddiogel. Mae eich tîm lleol yn cynnwys swyddogion a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ymroddedig, sy'n gweithio yn yr ardal er budd y gymuned ac sy'n weladwy ac yn hygyrch.
Rydym yn gweithio'n agos gyda thrigolion, arweinwyr cymunedol, eich cyngor lleol a phartneriaid eraill i ddeall pryderon y gymuned ac ymateb iddynt. Drwy gydweithio a chanolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar, atal a datrys problemau, gallwn ddarparu atebion hirdymor i broblemau lleol.
Yn ogystal â'r wybodaeth ar y dudalen hon, gallwch ddysgu mwy am droseddu a gweithgarwch plismona yn eich cymuned, yn ogystal â chael manylion cyswllt eich tîm lleol, drwy De Cymru yn Gwrando.
Mae cofrestru ar gyfer De Cymru yn Gwrando hefyd yn rhoi cyfle i chi roi gwybod i'ch tîm plismona cymdogaeth am y materion sydd bwysicaf i chi, yn ogystal â chymryd rhan mewn arolygon i'n galluogi i ddeall pryderon yn eich cymuned yn well.
Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau ymgysylltu lleol, cyngor ar atal troseddau ac, o bryd i'w gilydd, am weithgarwch plismona pwysig yn eich ardal.
Defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau
Wedi'i roi 15 Mehefin 2026
Mae'r gweithredoedd a gymerwyd yn cael eu diweddaru bob tri mis.
Camau wedi'u cymryd 15 Mehefin 2026
Beiciau modur oddi ar y ffordd a defnydd anghyfreithlon o gerbydau
Wedi'i roi 15 Mehefin 2026
Mae'r gweithredoedd a gymerwyd yn cael eu diweddaru bob tri mis.
Camau wedi'u cymryd 15 Mehefin 2026
Defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau
Wedi'i roi 11 Mawrth 2026
Rydym wedi patrolio mannau problemus am weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac wedi casglu cudd-wybodaeth. Cynnal ymgyrchoedd mewn dillad plaen i dargedu troseddwyr. Gweithredu gwarantau yn targedu safleoedd tyfu canabis.
Camau wedi'u cymryd 15 Mehefin 2026
Pryderon amgylcheddol - Tannau pwrpasol
Wedi'i roi 11 Mawrth 2026
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd, gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth tân ac asiantaethau eraill mewn ymgyrchoedd ar y cyd.
Camau wedi'u cymryd 16 Mehefin 2026
Beiciau modur oddi ar y ffordd a defnydd anghyfreithlon o gerbydau
Wedi'i roi 11 Mawrth 2026
Rydym wedi atafaelu cerbydau anghyfreithlon ac wedi cymryd camau gorfodi.
Camau wedi'u cymryd 16 Mehefin 2026
Defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau
Wedi'i roi 05 Rhagfyr 2025
Rydym wedi patrolio mannau problemus am weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac wedi casglu cudd-wybodaeth.
Rydym wedi cynnal ymgyrchoedd mewn dillad plaen i dargedu troseddwyr.
Camau wedi'u cymryd 11 Mawrth 2026
Pryderon amgylcheddol - Tannau pwrpasol
Wedi'i roi 05 Rhagfyr 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd.
Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth tân ac asiantaethau eraill mewn ymgyrchoedd ar y cyd.
Camau wedi'u cymryd 11 Mawrth 2026
Beiciau modur oddi ar y ffordd a defnydd anghyfreithlon o gerbydau
Wedi'i roi 05 Rhagfyr 2025
Mae swyddogion wedi atafaelu 55 o e-feiciau a sgwteri anghyfreithlon ychwanegol yn ystod proses atafaelu ddiweddar yng Nghaerdydd.
Lleolwyd swyddogion ar draws canol dinas Caerdydd, Trelái, Y Tyllgoed, Cathays a'r Rhath ddydd Sul 25 a dydd Gwener 30 Ionawr fel rhan o fenter leol yn targedu e-feiciau a cherbydau oddi ar y ffordd anghyfreithlon ac a oedd yn cael eu reidio a'u gyrru'n beryglus yn ein trefi.
Cafodd y broses hon ei chyflwyno gan y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth ar ôl sesiwn friffio yng Nghaerdydd Canolog, a hynny gyda chymorth cydweithwyr o Gyngor Caerdydd a'r adran Gorfodi Mewnfudo Gwladol i batrolio gwahanol ardaloedd o'r ddinas i archwilio'r cerbydau, addysgu gyrwyr ac atafaelu'r cerbyd os byddai angen.
Atafaelwyd 55 o e-feiciau ac e-sgwteri yn ystod y broses. Cafodd rhai ohonynt eu profi a dangoswyd eu bod yn gallu gwneud cyflymderau o dros 80mya.
Mae'r ymgyrch hon yn mynd ymhellach na dim ond reidio'r cerbydau hyn yn anghyfreithlon. Gwnaeth y swyddogion hefyd arestio tri unigolyn am fod â Chyffur Dosbarth B (Canabis) yn eu Meddiant gyda'r Bwriad o'i Gyflenwi a chafodd adran Gorfodi Mewnfudo'r Swyddfa Gartref ymgyrch lwyddiannus gan arestio tri unigolyn, pob un wedi'u rhoi ar fechnïaeth a'u harestio am dorri amodau eu mechnïaeth a gweithio yn y DU yn anghyfreithlon.
Dywedodd yr Arolygydd Tim Ursell:
"Mae'r rhain yn ganlyniadau gwych a fydd yn siŵr o gael effaith gadarnhaol ar aelodau'r cymunedau lleol lle mae reidio cerbydau anghyfreithlon ac oddi ar y ffordd yn beryglus ac yn wrthgymdeithasol yn tarfu ar eu bywydau yn barhaus.
"Mae brwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn un o bileri allweddol Gwarant Plismona yn y Gymdogaeth ac mae'r ymgyrch hon yn dangos ein hymrwymiad parhaus yng Nghaerdydd i fynd i'r afael â'r broblem."
Camau wedi'u cymryd 11 Mawrth 2026
Defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau
Wedi'i roi 10 Medi 2025
Rydym wedi patrolio mannau problemus am weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac wedi casglu cudd-wybodaeth.
Rydym wedi cynnal ymgyrchoedd mewn dillad plaen i dargedu troseddwyr.
Camau wedi'u cymryd 05 Rhagfyr 2025
Beiciau modur oddi ar y ffordd a defnydd anghyfreithlon o gerbydau
Wedi'i roi 10 Medi 2025
Mae mwy na 60 o e-feiciau ac e-sgwteri anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu mewn un dydd ar draws #Caerdydd a'r #Barri, sy'n gwneud y strydoedd yn fwy diogel.
Yn eu plith roedd beic mynydd wedi'i addasu oedd yn gallu cyrraedd 90 milltir yr awr – y cyflymaf i gael ei atafaelu erioed mewn ymgyrch ar y cyd gan Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd
Roedd y beic hwn yn un o'r 11 beic a gafodd eu hatafaelu yn #Trelái a'r #Tyllgoed
Atafaelwyd cyfanswm o 62 o gerbydau wedi'u gyrru'n fecanyddol (MPVs), y cyfeirir atynt hefyd fel e-feiciau a sgwteri anghyfreithlon.
Byddant nawr yn cael eu gwasgu a'u hailgylchu.
Dywedodd yr Arolygydd Tim Ursell, Rheolwr Cymdogaeth y Tyllgoed/Treganna a Threlái: "Mae defnyddio e-feiciau ac e-sgwteri yn anghyfreithlon ac yn peri risg difrifol i gerddwyr a defnyddwyr y ffordd.
"Mae'r effaith y mae reidwyr e-feiciau gwrthgymdeithasol yn ei chael ar gymunedau yn cael ei chodi fel pryder yn aml.
"Yn gyffredinol, mae'r bobl rydym yn eu stopio yn anymwybodol o'r gyfraith. "Fel arfer, maent yn yrwyr danfon nwyddau, cymudwyr sy'n edrych am ffordd rad o deithio, neu bobl ifanc sy'n ei weld fel tuedd.
"Rydym yn annog y cyhoedd i ddeall y gyfraith a gwneud dewisiadau diogel a chyfreithlon.
Mae'r ymgyrch hon yn dilyn ymgyrch lwyddiannus dros yr haf lle cafodd 135 o MPVs eu hatafaelu.
Camau wedi'u cymryd 05 Rhagfyr 2025