Mae mynd i’r afael â beiciau oddi ar y ffordd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni. Ar 6 Mehefin 2026, cynhaliwyd ymgyrch lwyddiannus arall yn rhan o Ymgyrch APEX, lle bu Swyddogion Cymdogaeth a swyddogion o Uned Plismona’r Ffyrdd yn cydweithio ag asiantaethau partner. Atafaelwyd 6 beic trydan o Ystum Taf / Gabalfa, roedd un beic yn gallu cyrraedd cyflymder uchaf o 80.2 myh / cafodd dyn ei stopio ac atafaelwyd beic a chyffuriau.
Atafaelwyd cyfanswm o 39 o gerbydau wedi'u gyrru'n fecanyddol, sy’n golygu bod mwy na 700 wedi cael eu hatafaelu ers mis Awst 2025.
Ar 2 Mehefin 2026, arestiwyd dyn am FOD Â CHYFFURIAU DOSBARTH A YN EI FEDDIANT GYDA’R BWRIAD O’U CYFLENWI a bod ag eitem lafnog yn ei feddiant. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, i ymdrin â ffactorau amgylcheddol a diffygion a allai ein helpu i gadw parciau a mannau gwyrdd yn ddiogel.
Rydym yn dal i annog aelodau o’r gymuned i roi gwybod am achosion fel y gallwn barhau i gasglu gwybodaeth am feiciau a'r bobl sy’n eu defnyddio.