Mae Ymgyrch Atal wedi cael ei chynnal yn ardal Rhiwbeina gyda chymorth GanBwyll a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Bu’r timau yn gweithio gyda'i gilydd i fonitro cerbydau a stopio’r rhai oedd yn gyrru dros y terfyn cyflymder, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a chyflawni troseddau traffig eraill.
Cafodd 594 o geir eu monitro
Rhoddwyd cyngor ar oryrru i 38 o bobl
Rhoddwyd cyngor ar wisgo gwregys diogelwch i 3 unigolyn
1 adroddiad trosedd traffig wedi'i gyhoeddi am oryrru
Mae ymgysylltu yn chwarae rhan hanfodol mewn diogelwch ar y ffyrdd. Cafodd y gyrwyr dan sylw ddewis - mynd i sesiwn addysgol gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar unwaith, neu dderbyn cosb benodedig. Dirwy o £100 i'w thalu yn y fan a'r lle yw'r gosb ar hyn o bryd ar gyfer trosedd gwregys diogelwch, neu £100 a 3 phwynt ar eich trwydded am oryrru.