• Cafodd dyn 18 oed ei arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, bod ag eitem lafnog yn ei feddiant, a throseddau gyrru. Wrth gynnal patrolau yn yr ardal yn rhan o Ymgyrch Tellima, gwnaeth swyddogion amau eu bod wedi gweld dyn oedd yn reidio e-feic anghyfreithlon yn delio cyffuriau. Pan wnaethant ddal y dyn, canfuwyd bod ganddo 34 bag maint delio o ganabis a chyllell glo yn ei feddiant. Atafaelwyd arfau ymosodol eraill ar ôl chwilio ei gyfeiriad cartref. Cafodd e-feic anghyfreithlon ei atafaelu hefyd sydd bellach wedi cael ei ddinistrio.
• Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio am fod ag arf ymosodol a chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi ar ôl cael ei ganfod â 6 parsel o grac cocên a machete yn ei feddiant. Cafodd e-feic anghyfreithlon ei atafaelu a'i ddinistrio hefyd.
• Atafaelwyd 32 bag selio yn cynnwys powdr gwyn a £2095 ar ôl i ddyn gael ei arestio am fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u cyflenwi.