Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gwasanaeth hwn mewn beta, sy'n golygu ein bod yn gweithio arno. Os hoffech roi adborth i ni:
Mae plismona yn y gymdogaeth wrth wraidd ein dull o gadw De Cymru'n ddiogel. Mae eich tîm lleol yn cynnwys swyddogion a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ymroddedig, sy'n gweithio yn yr ardal er budd y gymuned ac sy'n weladwy ac yn hygyrch.
Rydym yn gweithio'n agos gyda thrigolion, arweinwyr cymunedol, eich cyngor lleol a phartneriaid eraill i ddeall pryderon y gymuned ac ymateb iddynt. Drwy gydweithio a chanolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar, atal a datrys problemau, gallwn ddarparu atebion hirdymor i broblemau lleol.
Yn ogystal â'r wybodaeth ar y dudalen hon, gallwch ddysgu mwy am droseddu a gweithgarwch plismona yn eich cymuned, yn ogystal â chael manylion cyswllt eich tîm lleol, drwy De Cymru yn Gwrando.
Mae cofrestru ar gyfer De Cymru yn Gwrando hefyd yn rhoi cyfle i chi roi gwybod i'ch tîm plismona cymdogaeth am y materion sydd bwysicaf i chi, yn ogystal â chymryd rhan mewn arolygon i'n galluogi i ddeall pryderon yn eich cymuned yn well.
Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau ymgysylltu lleol, cyngor ar atal troseddau ac, o bryd i'w gilydd, am weithgarwch plismona pwysig yn eich ardal.
Diogelwch ar y Ffyrdd a Goryrru- Danygraig Avenue
Wedi'i roi 12 Mawrth 2026
Mae'r gweithredoedd a gymerwyd yn cael eu diweddaru bob tri mis.
Camau wedi'u cymryd 12 Mawrth 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Defnyddio sgwteri trydanol a beiciau trydanol (Trwy'r ward)
Wedi'i roi 12 Mawrth 2026
Mae'r gweithredoedd a gymerwyd yn cael eu diweddaru bob tri mis.
Camau wedi'u cymryd 12 Mawrth 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Niwsans ieuenctid - Llys Penfro
Wedi'i roi 12 Mawrth 2026
Mae'r gweithredoedd a gymerwyd yn cael eu diweddaru bob tri mis.
Camau wedi'u cymryd 12 Mawrth 2026
Diogelwch ar y Ffyrdd a Goryrru- Danygraig Avenue
Wedi'i roi 12 Rhagfyr 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd.
Rydym wedi patrolio gyda gynnau cyflymder er mwyn monitro cyflymderau traffig.
Mae’r holl ganlyniadau wedi cael eu trosglwyddo i asiantaethau partner.
Mae’r rhai sydd wedi mynd dros y terfyn cyflymder wedi derbyn llythyr rhybudd.
Mae trigolion wedi cael diweddariadau drwy negeseuon De Cymru yn Gwrando.
Camau wedi'u cymryd 12 Mawrth 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Defnyddio sgwteri trydanol a beiciau trydanol (Trwy'r ward)
Wedi'i roi 12 Rhagfyr 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd.
Rydym wedi atafaelu cerbydau anghyfreithlon ac wedi cymryd camau gorfodi.
Rydym wedi arwain sesiynau codi ymwybyddiaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ysgolion.
Camau wedi'u cymryd 12 Mawrth 2026
Parcio rhwystrol - Hyd Ffordd y Traeth
Wedi'i roi 12 Rhagfyr 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd.
Rydyn ni wedi ymgysylltu â pherchnogion ac wedi cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig ac Adroddiadau Trosedd Traffig i yrwyr cerbydau sy'n troseddu yn ôl yr angen.
Rydyn ni wedi addysgu busnesau a thrigolion lleol am barcio’n ddiogel ac yn gyfreithlon.
Camau wedi'u cymryd 12 Mawrth 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Pobl ifanc yn mynd i Parc Carafán Trecco Bay (Parkdean) sy’n gweithredu yn breifat ar ôl ysgol a dros y penwythnos.
Wedi'i roi 15 Medi 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn gyda Staff Diogelwch ac wedi casglu cudd-wybodaeth.
Rydym wedi cefnogi digwyddiadau cymunedol er mwyn hybu diogelwch ac annog pobl i roi gwybod am faterion.
Mae preswylwyr wedi cael diweddariadau trwy negeseuon SWL.
Camau wedi'u cymryd 12 Rhagfyr 2025
Pryderon parcio – hyd Beach Road
Wedi'i roi 15 Medi 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd.
Rydym wedi cyhoeddi hysbysiadau Adran 59 a rhybuddion atafaelu ar gyfer cerbydau.
Rydym wedi dosbarthu taflenni yn y cymunedau sydd wedi cael ei effeithio.
Rydym wedi dyroddi hysbysiadau rhybudd PACT i gerbydau heb oruchwyliaeth ac wedi gofyn i yrwyr i barcio mewn mannau eraill.
Rydym wedi cynnal patrolau partneriaeth gyda swyddogion gorfodaeth sifil ac yn parhau i rannu cudd-wybodaeth gyda'n gilydd.
Camau wedi'u cymryd 12 Rhagfyr 2025
Dwyn o siopau a Throseddau manwerthu - CO-OP, New Road
Wedi'i roi 15 Medi 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn.
Rydym wedi ymweld a’r siop yn aml er mwyn ddarparu presenoldeb heddlu, cynnig cyngor ar atal troseddau ac annog adroddiadau.
Rydym wedi cyflwyno cyfeiriadau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae swyddogion heddlu wedi dyroddi rhybuddion Adran 35.
Camau wedi'u cymryd 12 Rhagfyr 2025
Ymddygiad gwrthgymdeithasol - niwsans ieuenctid - Parc Carafan Bae Trecco
Wedi'i roi 24 Mehefin 2025
Rydym wedi patrolio'r Parc Carafán ac wedi cydweithio gyda staff Diogelwch.
Mae ychydig o bobl ifanc lleol wedi derbyn rhybuddion gwaharddiadau Trecco Watch ac ymddygiad gwrthgymdeithasol am eu hymddygiad parhaus.
Mae'r camau a gymerwyd wedi'u diweddaru trwy neges SWL.
Cynheswyd dau ddiwrnod hwyl ar gyfer gwasanaethau brys a ddenodd nifer fawr o ymwelwyr.
Camau wedi'u cymryd 12 Medi 2025