Mae'r heddlu wedi cael gwybod am ardaloedd lle mae pobl yn aml yn mynd i werthu/prynu cyffuriau rheoledig. Rydym yn gweithredu ar y gwybodaeth yma ac yn parhau i batrolio'r mannau cyhoeddus lle mae pobl yn aml yn mynd ar gyfer y fath gweithgaredd. Rydym wedi cael gwrychoedd wedi'u torri'n ol yn y lon sy'n gysylltiedig a Heol Islwyn oherwydd adroddiadau tebyg, a hefyd batrolio'n gyson sydd wedi arwain at arestiad. O ran safleoedd preswyl lle mae amheuaeth o delio cyffuriau yn digwydd, rydym yn aml yn cysylltu a'n partneriaid yn y maes tai i geisio rhannu gwybodaeth a chymryd camau gweithredu lle'n bosib. Rydym hefyd yn annog adroddi materion delio cyffuriau i'r tîm plismona'r fro fel bod ganddo lun go iawn o'r sefyllfa leol fel ei bod yn gallu defnyddio cudd-wybodaeth a gweithredu.