Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gwasanaeth hwn mewn beta, sy'n golygu ein bod yn gweithio arno. Os hoffech roi adborth i ni:
I gysylltu â'ch tîm lleol, defnyddiwch ein adnodd cysylltu ar-lein cyflym a syml.
Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau i sicrhau bod eich ymholiad yn cyrraedd y lle iawn.
Cyffuriau a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig
Wedi'i roi 11 Medi 2026
Mae'r gweithredoedd a gymerwyd yn cael eu diweddaru bob tri mis.
Camau wedi'u cymryd 11 Medi 2026
Cyffuriau a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig
Wedi'i roi 11 Mehefin 2026
Mae Ymgyrch Tellima wedi parhau yn yr ardal i dargedu achosion o ddelio cyffuriau a’r ymddygiad sy’n gysylltiedig â hynny yn aml iawn, sef e-feiciau/ymddygiad gwrthgymdeithasol/troseddau treisgar. Yn rhan o'r ymgyrch hon, mae swyddogion mewn lifrai a dillad plaen yn cynnal patrolau yn yr ardal, ynghyd â gweithgarwch gan adrannau arbenigol.
• Atafaelwyd 40 o e-feiciau anghyfreithlon. Bydd pob un yn ymuno â'r ciw i gael eu dinistrio a'u tynnu oddi ar y strydoedd.
• Arestiwyd 7 o bobl am droseddau cyflenwi cyffuriau ac fe atafaelwyd 15 ffôn symudol, cyllell glo, machete ac arfau ymosodol eraill.
• Atafaelwyd dros 6kg o ganabis, 34 pecyn o grac cocên, 243 o duniau ocsid nitraidd a mwy na £10,000.
• Cafodd menyw yr oedd yr heddlu yn gwybod ei bod yn gysylltiedig â gweithgarwch cyffuriau, y mae ei chartref wedi bod yn destun sawl gwarant cyffuriau dros y blynyddoedd diwethaf, ei throi allan o'i chartref.
• Arweiniodd ymgyrch ar y cyd â swyddogion Safonau Masnach at atafaelu nifer mawr o sigaréts anghyfreithlon, danteithion gwm Dosbarth B a sawl fêp anghyfreithlon o safleoedd masnachol.
• Rhoddwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol i droseddwr mynych. Defnyddir Gorchmynion Ymddygiad Troseddol yn erbyn troseddwyr cyson yn aml, a’u bwriad yw atal unigolion rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol pellach. Mae'r gorchmynion hyn yn cynnwys gofynion a gwaharddiadau rhag mynd i ardaloedd diffiniedig. Mae torri Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn drosedd.
• Darganfuwyd cnwd canabis yn y camau cychwynnol. Cafodd y cnwd ei chwalu a'i ddinistrio.
• Cyflwynwyd hysbysiad troi allan i breswylwyr mewn cyfeiriad y gwyddom ei fod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau yn yr ardal.
• Daethpwyd o hyd i ddau feic cwad a sgrialwr bach wedi’u dwyn mewn garej.
Camau wedi'u cymryd 11 Medi 2026
Cyffuriau a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig
Wedi'i roi 10 Mawrth 2026
- Wrth i swyddogion gynnal patrolau yn yr ardal ar gyfer Ymgyrch Tellima, gwelwyd dyn yn reidio e-feic mewn man ble mae delio cyffuriau’n broblem. Ar ôl i swyddogion gyflwyno eu hunain iddo, ceisiodd y dyn ddianc rhagddynt cyn cael ei ddal. Wrth chwilio'r dyn, daeth swyddogion o hyd i 14 parsel o ganabis, dros £100 mewn arian parod, a dau ffôn symudol. Daethpwyd o hyd i 184g o ganabis hefyd yn dilyn chwiliad o gyfeiriad. Mae'r dyn wedi cael ei arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi. Atafaelwyd yr e-feic hefyd.
- Cyflawnwyd chwiliad gwarant cyffuriau a reolir yn ardal Llanrhymni. Yn ystod y chwiliad canfuwyd 65g o ganabis a geriach delio cyffuriau. Atafaelwyd cyllell fach ddu Rambo hefyd. Cafodd y dyn ei arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B ac arf ymosodol yn ei feddiant. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i'r ymchwiliad barhau.
- Tra oeddent ar batrôl yn yr ardal, gwelodd swyddogion ddyn yn reidio beic oddi ar y ffordd. Ceisiodd y dyn ffoi o'r lleoliad, ond methodd â gwneud hynny. Ar ôl cael ei ddal gan swyddogion, canfuwyd bod gan y dyn 18 oed dri ffôn symudol, 31 parsel o grac cocên a 4 bag o ganabis yn ei feddiant. Mae wedi cael ei gyhuddo o fod â chyffuriau Dosbarth A a B yn ei feddiant, a bydd rhaid iddo ymddangos gerbron y llys.
Yn ogystal â'r cyffuriau, atafaelwyd beic oddi ar y ffordd, e-feic anghyfreithlon ac e-sgwter hefyd.
- Mae 2 troseddwr mynych wedi cael eu harestio a'u cadw yn y ddalfa. Rhoddwyd gorchymyn Ymddygiad Troseddol i un ohonynt, ac mae cais am orchymyn Ymddygiad Troseddol wedi cael ei gyflwyno ar gyfer y llall. Defnyddir Gorchmynion Ymddygiad Troseddol yn erbyn troseddwyr parhaus yn aml, gyda’r bwriad o atal unigolion rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol pellach. Mae'r gorchmynion hyn yn cynnwys gofynion ac maent yn atal unigolion rhag mynd i ardaloedd penodol. Mae torri Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn drosedd.
Camau wedi'u cymryd 10 Mehefin 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Wedi'i roi 10 Rhagfyr 2025
We have carried out high-visibility patrols in identified areas a gweithio gyda chynghorau lleol a darparwyr tai i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Camau wedi'u cymryd 10 Mawrth 2026
Defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau
Wedi'i roi 10 Rhagfyr 2025
Rydym wedi patrolio mannau problemus am weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac wedi casglu cudd-wybodaeth.
- Yn dilyn patrolau rhagweithiol yn yr ardal, mae dyn 18 oed wedi'i arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi. Atafaelwyd 15g o ganabis ac e-feic.
- Yn dilyn ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau yn ardal Llanrhymni, mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio am ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin. Yn ystod chwiliad o'i gyfeiriad, daethpwyd o hyd i dros £5000 mewn arian parod ynghyd â nifer o ffonau symudol a pharaffernalia a oedd ynghlwm â delio cyffuriau. Mae'r dyn wedi cael ei gyhuddo ac yn cael ei gadw yn y ddalfa am droseddau cyffuriau.
Camau wedi'u cymryd 10 Mawrth 2026
Beiciau modur oddi
Wedi'i roi 10 Rhagfyr 2025
Rydym wedi patrolio mannau problemus ac wedi cynnal ymgyrchoedd i dargedu troseddwyr. Mae 30 o feiciau oddi ar y ffordd (gan gynnwys sgwteri trydan) wedi cael eu hatafaelu a byddant yn ymuno â'r ciw i gael eu malu a'u dinistrio, gan eu symud yn barhaol oddi ar strydoedd Llanrhymni.
Camau wedi'u cymryd 10 Mawrth 2026