Carchar i ddeliwr cyffuriau a gafodd ei arestio yn y maes awyr wrth iddo ddychwelyd o'i wyliau
17:54 18/05/2026Cafodd Kane Evans, 29 oed, ei arestio gan yr heddlu ym maes awyr Bryste ar 29 Ionawr, 2026, ar ôl dychwelyd o wyliau yn Cyprus.
Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gwasanaeth hwn mewn beta, sy'n golygu ein bod yn gweithio arno. Os hoffech roi adborth i ni:
Cafodd Kane Evans, 29 oed, ei arestio gan yr heddlu ym maes awyr Bryste ar 29 Ionawr, 2026, ar ôl dychwelyd o wyliau yn Cyprus.
Mae mwy na 600 o gerbydau anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu ers yr haf.
“Dydw i ond yn gobeithio y galla i symud ymlaen gyda fy mywyd yn awr, gan wybod na fydd e'n gallu ymosod ar fenyw arall am beth amser o leiaf."
Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am Mohammed Ali Ege mewn cysylltiad â llofruddiaeth Aamir Siddiqi yng Nghaerdydd.
Mae dyn a stelciodd ddwy ferch ifanc wedi cael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Cyffuriau a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig
Wedi'i roi 11 Mehefin 2026
Mae'r gweithredoedd a gymerwyd yn cael eu diweddaru bob tri mis.
Camau wedi'u cymryd 11 Mehefin 2026
Cyffuriau a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig
Wedi'i roi 10 Mawrth 2026
- Wrth i swyddogion gynnal patrolau yn yr ardal ar gyfer Ymgyrch Tellima, gwelwyd dyn yn reidio e-feic mewn man ble mae delio cyffuriau’n broblem. Ar ôl i swyddogion gyflwyno eu hunain iddo, ceisiodd y dyn ddianc rhagddynt cyn cael ei ddal. Wrth chwilio'r dyn, daeth swyddogion o hyd i 14 parsel o ganabis, dros £100 mewn arian parod, a dau ffôn symudol. Daethpwyd o hyd i 184g o ganabis hefyd yn dilyn chwiliad o gyfeiriad. Mae'r dyn wedi cael ei arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi. Atafaelwyd yr e-feic hefyd.
- Cyflawnwyd chwiliad gwarant cyffuriau a reolir yn ardal Llanrhymni. Yn ystod y chwiliad canfuwyd 65g o ganabis a geriach delio cyffuriau. Atafaelwyd cyllell fach ddu Rambo hefyd. Cafodd y dyn ei arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B ac arf ymosodol yn ei feddiant. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i'r ymchwiliad barhau.
- Tra oeddent ar batrôl yn yr ardal, gwelodd swyddogion ddyn yn reidio beic oddi ar y ffordd. Ceisiodd y dyn ffoi o'r lleoliad, ond methodd â gwneud hynny. Ar ôl cael ei ddal gan swyddogion, canfuwyd bod gan y dyn 18 oed dri ffôn symudol, 31 parsel o grac cocên a 4 bag o ganabis yn ei feddiant. Mae wedi cael ei gyhuddo o fod â chyffuriau Dosbarth A a B yn ei feddiant, a bydd rhaid iddo ymddangos gerbron y llys.
Yn ogystal â'r cyffuriau, atafaelwyd beic oddi ar y ffordd, e-feic anghyfreithlon ac e-sgwter hefyd.
- Mae 2 troseddwr mynych wedi cael eu harestio a'u cadw yn y ddalfa. Rhoddwyd gorchymyn Ymddygiad Troseddol i un ohonynt, ac mae cais am orchymyn Ymddygiad Troseddol wedi cael ei gyflwyno ar gyfer y llall. Defnyddir Gorchmynion Ymddygiad Troseddol yn erbyn troseddwyr parhaus yn aml, gyda’r bwriad o atal unigolion rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol pellach. Mae'r gorchmynion hyn yn cynnwys gofynion ac maent yn atal unigolion rhag mynd i ardaloedd penodol. Mae torri Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn drosedd.
Camau wedi'u cymryd 10 Mehefin 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Wedi'i roi 10 Rhagfyr 2025
We have carried out high-visibility patrols in identified areas a gweithio gyda chynghorau lleol a darparwyr tai i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Camau wedi'u cymryd 10 Mawrth 2026
Defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau
Wedi'i roi 10 Rhagfyr 2025
Rydym wedi patrolio mannau problemus am weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac wedi casglu cudd-wybodaeth.
- Yn dilyn patrolau rhagweithiol yn yr ardal, mae dyn 18 oed wedi'i arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi. Atafaelwyd 15g o ganabis ac e-feic.
- Yn dilyn ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau yn ardal Llanrhymni, mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio am ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin. Yn ystod chwiliad o'i gyfeiriad, daethpwyd o hyd i dros £5000 mewn arian parod ynghyd â nifer o ffonau symudol a pharaffernalia a oedd ynghlwm â delio cyffuriau. Mae'r dyn wedi cael ei gyhuddo ac yn cael ei gadw yn y ddalfa am droseddau cyffuriau.
Camau wedi'u cymryd 10 Mawrth 2026
Beiciau modur oddi
Wedi'i roi 10 Rhagfyr 2025
Rydym wedi patrolio mannau problemus ac wedi cynnal ymgyrchoedd i dargedu troseddwyr. Mae 30 o feiciau oddi ar y ffordd (gan gynnwys sgwteri trydan) wedi cael eu hatafaelu a byddant yn ymuno â'r ciw i gael eu malu a'u dinistrio, gan eu symud yn barhaol oddi ar strydoedd Llanrhymni.
Camau wedi'u cymryd 10 Mawrth 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Wedi'i roi 01 Medi 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd a gweithio gyda chynghorau lleol a darparwyr tai i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Camau wedi'u cymryd 10 Rhagfyr 2025
Defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau
Wedi'i roi 01 Medi 2025
Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio am droseddau cyffuriau yn dilyn ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau yn ardal Llanrhymni. Yn ystod yr arestiad, canfuwyd bod y dyn ym meddiant crac cocên, heroin ac arian parod. Mae wedi cael ei gyhuddo o gyfanswm o 4 trosedd, pob un yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau, ac wedi'i gadw yn y ddalfa tan y dedfrydu fis nesaf.
Camau wedi'u cymryd 10 Rhagfyr 2025
Beiciau modur oddi
Wedi'i roi 01 Medi 2025
Cynhaliwyd ymgyrch bartneriaeth lwyddiannus arall rhwng timau plismona yn y gymdogaeth a thîm oddi ar y ffordd Cyngor Caerdydd. Nod Ymgyrch Green Horizon yw mynd i'r afael â'r defnydd o feiciau/sgwteri anghyfreithlon mewn mannau gwyrdd a phriffyrdd ledled Caerdydd.
Camau wedi'u cymryd 10 Rhagfyr 2025